Ystyrir bod tua 5% o dirwedd Cymru yn wneuthuredig, ac mae’r rhan fwyaf o’r ardal hon yn y de-ddwyrain. Mae’r tirweddau hyn wedi cael eu ffurfio’n hanesyddol drwy gloddio am lo a mwynau eraill yng Nghymoedd y De ac yna eu hallforio drwy borthladdoedd yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Yn fwy diweddar, mae Llandudno ac Ynys y Barri wedi cael eu ffurfio ar gyfer gweithgareddau hamdden.