Mae organebau amlgellog yn dechrau bywyd fel un gell wy wedi’i ffrwythloni, o’r enw sygot. Mae gan y sygot gnewyllyn sy’n cynnwys set gyfan o enynnau. Pan mae’r sygot yn rhannu drwy gyfrwng mitosis, mae’r set gyfan o enynnau’n cael eu copïo ac mae’r broses hon yn parhau nes bod pelen o gelloedd o’r enw embryo yn ffurfio. Ar yr adeg hon, mae’r celloedd yn dechrau newid ac addasu ar gyfer swyddogaethau penodol.
Gwahaniaethu yw’r broses hon a genynnau sy’n rheoli’r broses.