Pe bai’r egni sydd wedi’i storio mewn glwcos i gyd yn cael ei ryddhau ar unwaith, byddai’n anodd iawn ei reoli. Felly, mae’r egni sydd wedi’i storio yn y moleciwl glwcos yn cael ei ryddhau’n raddol yn ystod resbiradaeth a’i ddefnyddio i ffurfio ATP. ATP yw cyfnewidiwr egni celloedd. Mae’n storio’r egni dros dro mewn bond egni uchel, a phan mae’r bond hwn yn cael ei dorri, mae symiau bach o egni’n cael eu rhyddhau a’u defnyddio gan y corff.