Uned 1.2

Cards (30)

  • Pan rydyn ni'n mewnanadlu mae cyfaint y thoracs yn

    Cynhyddu
  • Pan rydyn ni'n mewnanadlu mae gwasgedd y thoracs yn 

    Lleihau
  • Swyddogaeth y mwcws yw

    Dal llwch a baw
  • Swyddogaeth y cilia yw

    Symud llwch a baw
  • Effaith ysmygu ar y cilia a y mwcws
    Mae ysmygu yn paralysu'r cilia ac mae'r mwcws yn troi'n gludog a trwchus
  • Clefyd sy'n cael ei across gan ynsmygu sigarets
    Emffysema
  • Swyddogaeth y cilia hn y system resbiradol

    Symud llwch a baw Allan o'r system
  • Ocsigen + glwcos--->carbon deuocsid + dwr + egni atp
  • Gall newid yn pH dadnatureiddio'r ensym sydd angen ar gyfer resbiradaeth
  • Sut mae molecylau defnyddiol yn symud o gwaed I celloedd

    Nwyon yn symud trwy trylediad
    Dwr yn symud trwy osmosis
    Peth glwvos yn symud trwy y cludiant actif
  • Taith ocsigen
    Dechrau-ceg/trwyn
    Mynd-gwaed
  • Taith carbon deuocsid
    Dechrau-gwaed
    Mynd-ceg/trwyn
  • Mae pob peth byw’n cyflawni saith proses bywyd: symudiad resbiradaeth sensitifrwydd twf atgenhedliad ysgarthiad maethiad
  • Pe bai’r egni sydd wedi’i storio mewn glwcos i gyd yn cael ei ryddhau ar unwaith, byddai’n anodd iawn ei reoli. Felly, mae’r egni sydd wedi’i storio yn y moleciwl glwcos yn cael ei ryddhau’n raddol yn ystod resbiradaeth a’i ddefnyddio i ffurfio ATP. ATP yw cyfnewidiwr egni celloedd. Mae’n storio’r egni dros dro mewn bond egni uchel, a phan mae’r bond hwn yn cael ei dorri, mae symiau bach o egni’n cael eu rhyddhau a’u defnyddio gan y corff.
  • Does dim angen ocsigen ar resbiradaeth anaerobig, yn wahanol i resbiradaeth aerobig. Dyma’r broses o ryddhau ychydig bach o egni mewn celloedd drwy dorri sylweddau bwyd i lawr yn absenoldeb ocsigen
  • Mae asid lactig yn crynhoi yn y cyhyrau wrth ymarfer yn galed. Mae angen ocsidio yr asid lactig i garbon deuocsid a dŵr yn ddiweddarach.
  • Mewn bodau dynol, mae aer yn mynd i mewn i’r corff drwy’r ceudod trwynol ac yn llifo i’r ffurfiadau canlynol yn y thoracs dynol:
    tracea bronci (broncws chwith a dde) bronciolynnau alfeoli
  • mae angen y ffurfiadau canlynol ar gyfer awyru (y broses o symud aer i mewn ac allan o’r ysgyfaint): asennau cyhyrau rhyngasennol llengig
  • Mae’r aer sy’n mynd i mewn i’r ceudod trwynol yn llifo i lawr y tracea. Mae gan y tracea nifer o addasiadau: mae cylchoedd cartilag ym muriau’r tracea yn helpu i’w gadw ar agor mae epitheliwm ciliedig a chelloedd gobled yn glanhau’r aer cyn iddo gyrraedd yr ysgyfaint
  • Mae celloedd gobled yn cynhyrchu mwcws sy’n dal llwch, baw a bacteria i’w hatal nhw rhag mynd i’r ysgyfaint.
  • Blew bach yw cilia sy’n curo i wthio’r mwcws yn ôl i fyny’r tracea er mwyn i ni allu ei lyncu a’i ddinistrio yn y stumog
  • Yna, mae aer glân yn mynd i’r ddau froncws, ac un broncws yn mynd i bob ysgyfant. Mae’r bronci yn yr ysgyfaint yn rhannu’n diwbiau llai a llai o’r enw bronciolynnau. Mae’r rhain yn arwain at godennau aer microsgopig o’r enw alfeoli.
  • Wrth fewnanadlu: Mae’r cyhyrau rhyngasennol yn cyfangu, gan dynnu’r cawell asennau i fyny a thuag allan Mae’r llengig yn cyfangu, gan dynnu am i lawr Mae cyfaint yr ysgyfaint yn cynyddu ac mae’r gwasgedd aer y tu mewn yn gostwng Mae aer yn cael ei dynnu i mewn i’r ysgyfaint
  • Wrth allanadlu: Mae’r cyhyrau rhyngasennol yn ymlacio, gan dynnu’r cawell asennau i lawr ac i mewn Mae’r llengig yn ymlacio, gan symud yn ôl i fyny Mae cyfaint yr ysgyfaint yn gostwng ac mae pwysau’r aer y tu mewn yn cynyddu Mae aer yn cael ei wthio allan o’r ysgyfaint
  • O gymharu ag aer atmosfferig, mae aer sydd wedi ei allanadlu yn cynnwys: llai o ocsigen mwy o garbon deuocsid mwy o anwedd dŵr
  • Mae cyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint yn digwydd yn yr alfeoli. Mae rhai o nodweddion alfeoli yn cynnwys: Muriau cul (trwch un gell yn unig) i leihau’r pellter tryledu Arwynebedd arwyneb mawr i gyfnewid cymaint â phosibl o nwyon Arwyneb llaith i hydoddi nwyon yn yr aer yn yr alfeoli fel eu bod nhw’n gallu tryledu ar draws muriau’r alfeoli Cyflenwad gwaed cyfoethog i gael gwared ar nwyon wedi tryledu a chynnal graddiant crynodiad ar gyfer mwy o drylediad
  • Model clochen
    Balŵns yn llenwi gyda Aer
    Aer yn symud trwy pibell
    Dalen rwber wedi'i tynnu lawr
    Cyfaint y clochen yn cynhyddu
    Gwasgedd yn lleihau
  • Cyfyngiadau model clochen
    Clochen ddim yn cyfyngu
    Dalen rwber ddim yn symud ar ben ei hun
    Balŵns ddim yn llenwi'r holl jar
  • Pam dydy ysgyfaint wedi cwympo ddim yn cael ei ystyried yn bygwth bywyd
    Mae'r ysgyfaint yn gweithio ar wahân i'w gilydd
  • Emffysema
    Mae'r cemegion mewn mwg tybaco yn difrodi wal yr afeoli, ac yn y pen draw mae nhw'n torri lawr. Mae hyn yn lleihau ei arwenebedd arwyneb, ac felly'n bydd y dioddefwr yn brin o ocsigen