Uned 1.4

Cards (44)

  • Taith y gwaed
    1 Aorta
    2 corff
    3 fena cafa
    4 atriwm de
    5 fentrigl de
    6 rhydwell ysgafaenol
    7 ysgyfaint
    8 gwythien ysgafaenol
    9 atriwm chwith
    10 fentrigl chwith
  • Adeiledd cell gwaed coch
    Ddisgiau deugeugrwm
    Crwn
    Fflat
    Pant yn y canol
  • Celloedd gwyn
    Ffagosyt a lymffodyt
  • Platennau
    Clotio/tolchi/ceulo
  • Plasma
    Pethau yn nofio yn y plasma
  • Swyddogaeth cell coch
    Cludo ocsigen
  • Swyddogaeth lymffosyt
    Cynhyrchu gwrthgyrff
  • Swyddogaeth ffagosyt
    Amlyncu bacteria
  • Swyddogaeth platennau
    Clotio gwaed
  • Swyddogaeth rhydwell coronaidd
    Darparu ocsigen a bwyd i'r galon
  • Swyddogaeth gwythiennau coronaidd
    Cludo CO2 i'r ysgyfaint
  • Falfiau
    Atal ail lifiaid gwaed
  • Pibellau gwaed
    Rhydweli
    Gwythien
    Capilari
  • Rhydwelïau
    Gwaed o dan gwasgedd uchel
    Waliau cyhyrog, trwchus ac elastic
    Waliau cryf
  • Gwythiennau
    Gwaed heb ocsigen
    Gwasgedd isel
    Waliau tennau
    Dim yn cael ei gwthio gan cyhyrau'r calon felly angen falfiau
  • Capilarïau
    Bach iawn
    Treiddio I pob cell a organ
    Cludo bwyd ocsigen a sylweddau angenrheidiol
    Waliau tennau iawn
  • Pwysedd isel yn capilarïau ysgyfaint
    Cyfnewid nwyon yn fwy effeithlon
  • Mwyogenig
    Dim yn blino
    Dim angen dweud wrth o
  • Gwaith celloedd coch y gwaed yw cludo ocsigen. Maen nhw’n amsugno ocsigen o’r ysgyfaint a’i gludo trwy bibellau gwaed tenau. Mae’r ocsigen yn cael ei ryddhau i gelloedd y corff sydd yn ei ddefnyddio ar gyfer resbiradaeth aerobig.
  • Addasiadau cell gwaed coch
    Maen nhw’n cynnwys haemoglobinprotin arbennig sy’n cludo ocsigen Does ganddyn nhw ddim cnewyllyn er mwyn iddyn nhw allu cynnwys mwy o haemoglobin Maen nhw’n fach a hyblyg er mwyn iddyn nhw allu ffitio drwy bibellau gwaed tenau Mae ganddyn nhw siâp deugeugrwm (siâp disg gwastad) i gynyddu arwynebedd eu harwyneb ar gyfer amsugno ocsigen
  • Celloedd gwyn y gwaed sy’n amddiffyn y corff rhag clefydau. Mae’r rhan fwyaf o gelloedd gwyn y gwaed yn fath o gell o’r enw ffagocytau. Mae’r ffagocytau’n amlyncu a dinistrio pathogenau fel bacteria
  • Os ydy’r croen yn cael ei dorri, mae’n rhaid cau’r clwyf i atal colli gwaed ac i bathogenau gyrraedd y corff. Bydd crachen yn ffurfio er mwyn cyflawni hynny
  • Pan mae croen yn cael ei glwyfo, mae platennau yn gallu: Rhyddhau cemegau sy’n achosi i broteinau hydawdd ffurfio rhwyll o ffibrau anhydawdd ar draws y clwyf Glynu gyda’i gilydd i ffurfio clystyrau sy’n cael eu dal yn y rhwyll
  • Hylif lliw gwellt yw plasma, a dyma beth yw ychydig dros hanner cyfaint gwaed. Mae gan y plasma lawer o swyddogaethau: cludo carbon deuocsid o gelloedd sy’n resbiradu i’r ysgyfaint cludo bwyd wedi’i dreulio o’r coluddyn bach i gelloedd sy’n resbiradu cludo wrea o’r iau i’r arennau i’w ysgarthu dosbarthu gwres o gwmpas y corff i gyd cludo hormonau o'r chwarennau lle maen nhw'n cael eu gwneud i’r organau targed
  • Organ cyhyrog ydy’r galon a’i gwaith ydy pwmpio gwaed. Mae cyhyr cardiaidd y galon yn cyfangu i bwmpio’r gwaed o’r atria i’r fentriglau ac o’r fentriglau i’r rhydwelïau. Mae angen egni o resbiradaeth er mwyn i gyhyr cardiaidd y galon ddal i gyfangu, ac mae’r rhydwelïau coronaidd yn cyflenwi glwcos ac ocsigen iddo er mwyn gwneud hyn.
  • Gwaed yn y calon
  • Mae’r ochr dde yn pwmpio gwaed drwy’r gylched ysgyfeiniol, ac mae’r ochr chwith yn pwmpio gwaed drwy’r gylched systemig
  • Yn gyffredinol, mae gwaed yn llifo i mewn i un ochr o’r galon o wythïen, yn mynd i mewn i atriwm, yna i fentrigl, ac allan drwy rydweli. Mae gwahanfur yn gwahanu’r ochr dde a’r ochr chwith.
  • Mae’r gwaed ar ochr dde’r galon yn ddadocsigenedig. Mae wedi bod o gwmpas y corff gan ddefnyddio celloedd coch y gwaed i gludo ocsigen i’w gyflenwi i’r celloedd. Erbyn hyn, mae’r ocsigen wedi’i ollwng ac mae’r gwaed yn mynd i mewn i’r galon drwy’r brif wythïen, y fena cafa i mewn i’r atriwm de.
  • Mae’r atriwm de yn cyfangu ac yn gwthio’r gwaed i mewn i’r fentrigl de sydd yn ei dro’n cyfangu gan wthio’r gwaed allan o’r rhydweli ysgyfeiniol i’r ysgyfaint i gael ei ocsigenu
  • Mae gwaed nawr yn dychwelyd i ochr chwith y galon drwy’r wythïen ysgyfeiniol. Mae’n mynd i mewn i’r atriwm chwith sy’n cyfangu i wthio’r gwaed i mewn i’r fentrigl chwith. Mae gan y fentrigl chwith fur cyhyrog trwchus i ddarparu digon o bwysedd i bwmpio’r gwaed ocsigenedig i fannau pellaf y corff. Mae gwaed yn gadael y galon drwy’r brif rydweli, yr aorta.
  • Mae’r galon yn cynnwys falfiau sy’n cau i atal ôl-lifiad o’r gwaed: Mae gan yr ochr dde falf deirlen (falf â thri fflap) Mae gan yr ochr chwith falf ddwylen (falf â dau fflap) Mae gan y ddwy ochr falfiau cilgant – ar y ffordd i mewn i’r rhydweli ysgyfeiniol a’r aorta
  • Rhydwelïau Cludo gwaed i ffwrdd o’r galon (wedi ei ocsigenu bob tro heblaw am y rhydweli ysgyfeiniol sy’n mynd o’r galon i’r ysgyfaint). Muriau cyhyrog trwchus. Sianeli bach ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol). Cynnwys gwaed dan bwysedd uchel.
  • Gwythiennau Cludo gwaed i’r galon (heb ei ocsigenu bob tro heblaw am y wythïen ysgyfeiniol sy’n mynd o’r ysgyfaint i’r galon). Muriau tenau. Sianeli mwy ar gyfer y gwaed (lwmen mewnol). Cynnwys gwaed dan bwysedd isel. Falfiau i atal gwaed rhag llifo yn ôl.
  • Capilarïau I’w cael yn agos at bob cell fyw yn y corff. Microsgopig – muriau â thrwch un gell, mae hyn yn caniatáu trylediad sylweddau i mewn i’r celloedd o’r capilarïau ac allan o’r celloedd i mewn i’r capilarïau. Pwysedd gwaed isel iawn.
  • Mae’r rhydwelïau coronaidd yn cyflenwi gwaed i gyhyr y galon. Mae’r rhain yn gallu cael eu cau gan blaciau brasterog sy’n cynnwys colesterol, gan arwain at glefyd coronaidd y galon.
  • Os ydy rhydweli goronaidd yn cau, mae’r cyflenwad gwaed i ran o’r galon yn cael ei dorri i ffwrdd. Dydy’r rhan honno o’r galon ddim yn gallu parhau i gyfangu, gan achosi trawiad ar y galon.
  • A= Cyhyr
    B=Endotheliwm
    Beth yw A a B?
  • Effaith clefyd cardiofasgwlar ar diamaedr y lwmen

    Bydd braster yn adeiladu lan mewn y pibellau ac felly yn lleihau'r diamedr
  • Pa adeileddau sydd mewn wythïen ond nid rhydweli a capliari?

    Falfiau