Uned 1.5

Cards (51)

  • Ffacrorau sy'n effeithio ar ffitosynthesis
    Carbon deuocsid
    Arddwysedd golau
    Tymheredd
  • Effaith crynodiad CO2 ar ffotosynthesis
    Dim CO2 --> dim ffotosynthesis
    CO2 cynhyddu --> cyfradd ffotosynthesis yn cynhyddu nest iddo gyrraedd uchafbwynt
  • Effaith arddwysedd golau ar ffotosynthesis
    Arddwysedd golau yn cynhyddu --> cyfradd ffotosynthesis yn cynhyddu nes ind gyrraedd uchafbwynt
  • Effaith tymheredd ar ffotosynthesis
    Tymheredd yn cynhyddu --> cyfradd ffotosynthesis yn cynhyddu nes iddo gyrraedd uchafbwynt (tymheredd optimum yr ensym)
    Uwch na'r optimwm --> ensym yn dadnatureiddio --> cyfradd ffotosynthesis yn gostwng
  • Hafaliad ffotosynthesis
    Carbon deuocsid + dwr ---> glwcos + ocsigen
  • Dau beth arall sydd angen ar gyfer ffotosynthesis
    Golau
    Cloroffyl
  • Deddfnydd y glwcos sy'n cael ei gynhyrchu yn ystod ffotosynthesis
    Rhyddau egni mewn resbiradaeth
    Troi I starts er mwyn storio
    Defnyddio I wneud cellwlos (yn y cellfur)
    I greu proteinau
  • Cwtigl
    Haen gwyraidd gwrth dwr
  • Haen palisad
    Llawn cloroplastau ar gyfer ffotosynthesis
  • Haen sbyngaidd
    Cynnwys gwaglynnau mawr o aer I ganiatau I CO2 cyrraedd yr haen palisad ae gyfer ffotosynthesis
  • Gwythien
    Cynnwys sylem a ffloem
  • Sylem
    Cludo dwr i'r deilen
  • Ffloem
    Cludo swigr allan
  • Cell gwarchod
    Agor a cau y stomata I adael CO2 mewn neu atal colled dwr
  • Pam oes angen dwr
    Ffotosynthesis
    Cadw'r celloedd yn chwydd dyn a cynal y planhigyn
  • Symptomau planhigion

    Twf gwael, dail melyn --> nitrad
    Twf gwreiddiau gwael a dail di liw --> ffosffad
    Twf ffrwythau a blodau gwael a dail di liw --> potasiwm
  • Gwreiddflewyn
    Amsugno dwr a mwynau
    Arwynebedd mawr
  • Cludiant actif mewn cell gwreiddflewyn
    Crynodiad isel I uchel
    Gyda egni o'r mitocondria
    Creu egni trwy resbiradu
    Angen ocsigen
  • Trydarthiad
    Gwreiddflew --> gwreiddiau --> sylem --> deilen --> Allan trwy'r stomata
    Dedfnyddio osmosis
    Oherwydd anwedd dwr
  • Tiwb ffloem
    Celloedd byw
    Cludo bwyd a wneir yn y ddeilen I bob man arall or planhigyn
    Cludo siwgrau brasterau proteinau
  • Twib sylem
    Celloedd marw
    Waliau cadarn ac yn cynnwys lignin I gynnal y planhigyn
    Cludo dwr a mwynau I fyny o'r gwreiddiau i'r dail yn y llif yn y trydarthol
  • Cwtigl - haen cwyraidd gwrth dwr
    Haen palisad - llawn cloroplastau
    Haen sbyngaid -.cynnwys gwagolynnau mawr I aer I ganiatau co2 cyrraedd yr haen plaisad
    Gwythien - cynnwys sylem a ffloem
    Cell gwarchod - agor a cau y stomata
  • Llai o stomata = colli llai o dwr
  • Nitrad - coesyn yn tyfu'n dda
    Ffosffad - gwreiddyn yn tyfu'n gryf
    Potassiwm - blodau'n tyfu'n dda
  • Mae deilen angen: ffordd i gludo dŵr i’r ddeilen, a glwcos i rannau eraill o’r planhigyn Ffordd o gyfnewid carbon deuocsid ac ocsigen
    y gallu i amsugno egni golau yn effeithlon
  • Mae golau’n cael ei amsugno ym meinwe mesoffyl palisâd ddeilen. Mae celloedd palisâd ar ffurf colofn ac yn llawn dop o gloroplastau. Maen nhw wedi eu gosod yn agos iawn at ei gilydd fel bod llawer o egni golau yn gallu cael ei amsugno
  • Mae’r stomata yn rheoli sut mae’r ddeilen yn cyfnewid nwyon. Mae modd agor neu gau pob stoma yn dibynnu ar ba mor chwydd-dynn ydy ei gelloedd gwarchod. Mae’r stomata yn gallu agor a chau i wneud y canlynol: rheoleiddio trydarthiad caniatáu cyfnewid nwyon
  • Mae trylediad carbon deuocsid, ocsigen ac anwedd dŵr i mewn (neu allan) o’r ddeilen yn digwydd yn bennaf pan mae’r stomata ar agor.
  • Mae sylem yn cludo dŵr a halwynau mwynol o’r gwreiddiau i fyny i rannau eraill o’r planhigyn. Mae ffloem yn cludo swcros ac asidau amino rhwng y dail a rhannau eraill o’r planhigyn.
  • Mae sylem aeddfed yn cynnwys celloedd marw hirgul, wedi eu trefnu o un pen i’r llall i ffurfio tiwbiau parhaus. Tiwbiau sylem aeddfed: Dydyn nhw ddim yn cynnwys cytoplasm Maen nhw’n anathraidd i ddŵr Mae ganddyn nhw furiau cadarn sy’n cynnwys deunydd prennaidd, sef lignin
  • Mae ffloem yn cynnwys celloedd byw wedi eu trefnu o un pen i’r llall. Yn wahanol i sylem, mae tiwbiau ffloem yn cynnwys cytoplasm, ac mae hwn yn mynd drwy dyllau’r plat hidlo o un gell i’r un nesaf. Mae ffloem yn cludo swcros ac asidau amino i fyny ac i lawr y planhigyn. Trawsleoliad ydy’r enw ar hyn. Yn gyffredinol, mae hyn yn digwydd rhwng lle mae’r sylweddau yn cael eu gwneud (y ffynonellau) a lle maen nhw’n cael eu defnyddio neu eu cadw (y suddfannau/sincs).
  • Mae meinweoedd sylem a ffloem i’w canfod mewn grwpiau o’r enw sypynnau fasgwlar. Mae safle’r sypynnau hyn yn amrywio mewn gwahanol rannau o’r planhigyn. Mewn deilen, er enghraifft, mae’r ffloem fel arfer yn agosach i’r arwyneb isaf.
  • Mae tiwbiau sylem yn wydn ac yn gryf, felly mae’r sypynnau fasgwlar yng nghanol y gwreiddyn i wrthsefyll grymoedd a allai dynnu’r planhigyn allan o’r tir.
  • Mae’n rhaid i’r coesyn wrthsefyll cywasgiad (gwasgu) a grymoedd plygu sy’n cael eu hachosi gan bwysau’r planhigyn a’r gwynt. Mae’r sypynnau fasgwlar wedi eu trefnu ger ymyl y coesyn, gyda’r ffloem ar y tu allan a’r sylem ar y tu mewn.
  • Trydarthiad ydy anweddiad dŵr ar arwynebau’r celloedd mesoffyl sbyngaidd mewn dail, cyn colli anwedd dŵr drwy’r stomata.
  • Os ydy’r gyfradd trydarthu yn cynyddu, mae cyfradd yr amsugniad dŵr gan y gwreiddyn yn cynyddu hefyd. Mae ffactorau sy’n effeithio ar gyfradd trydarthu hefyd yn effeithio ar gymeriant dŵr y planhigyn. Os ydy dŵr yn brin, neu os ydy’r gwreiddiau wedi eu difrodi, mae planhigyn yn gallu gwywo.
  • Mae’r rhan fwyaf o amsugniad dŵr yn digwydd yn y celloedd gwreiddflew. Maen nhw’n hir a chul ac felly’n gallu treiddio rhwng gronynnau pridd, ac mae ganddyn nhw arwyneb mawr ar gyfer amsugno dŵr drwy osmosis.
  • Rydyn ni’n gallu ymchwilio i gyfradd trydarthu drwy fesur y gostyngiad mewn màs yn sgil colli dŵr, neu drwy fesur cyfaint y dŵr sydd wedi ei amsugno.
  • Gallwn ni ddefnyddio potomedr i fesur cyfradd trydarthiad sy’n gyfrannol i mewnlifiad dŵr. Dydyn ni ddim yn gallu mesur trydarthiad yn uniongyrchol oherwydd bydd rhywfaint o’r dŵr yn cael ei ddefnyddio yn ystod ffotosynthesis. Gallwn ni gyfrifo cyfradd trydarthiad drwy fesur y pellter mae swigen aer yn ei deithio mewn tiwb capilari mewn amser penodol. Y cyflymaf mae’r swigen yn symud, y mwyaf yw cyfradd mewnlifiad dŵr – ac felly y mwyaf rydyn ni’n tybio yw’r gyfradd trydarthu.
  • Mae’r gyfradd trydarthu yn cael ei heffeithio gan sawl ffactor, gan gynnwys: tymheredd lleithder cyflymder gwynt tanbeidrwydd golau