Mae ffloem yn cynnwys celloedd byw wedi eu trefnu o un pen i’r llall. Yn wahanol i sylem, mae tiwbiau ffloem yn cynnwys cytoplasm, ac mae hwn yn mynd drwy dyllau’r plat hidlo o un gell i’r un nesaf.
Mae ffloem yn cludo swcros ac asidau amino i fyny ac i lawr y planhigyn. Trawsleoliad ydy’r enw ar hyn. Yn gyffredinol, mae hyn yn digwydd rhwng lle mae’r sylweddau yn cael eu gwneud (y ffynonellau) a lle maen nhw’n cael eu defnyddio neu eu cadw (y suddfannau/sincs).