Mae'r rhain yn hydawdd, ac os cânt eu chwistrellu ar gnydau maen nhw'n golchi i mewn i afonydd a llynnoedd yn hawdd, sef trwytholchi. Gallwn ni amlinellu'r broses fel hyn.
Mae mwy o nitradau yn y dŵr yn cynyddu twf algâu a phlanhigion.
Mae'r algâu'n ffurfio blŵm dros arwyneb y dŵr, gan atal golau'r haul rhag cyrraedd planhigion eraill yn y dŵr.
Mae'r planhigion hyn yn marw oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu cyflawni ffotosynthesis heb olau.
Mae niferoedd microbau fel bacteria yn cynyddu wrth iddyn nhw ddadelfennu y planhigion marw, gan ddefnyddio ocsigen o'r dŵr i resbiradu wrth wneud hynny.
Mae'r lefelau ocsigen yn isel ar ôl hyn, sy'n gallu achosi i bryfed dyfrol a physgod fygu, ac yn y pen draw mae'r llyn yn gallu mynd yn gwbl ddifywyd.