Uned 1.6

Cards (43)

  • Cynhyrchydd
    Gwneud bwyd eu hun trwy ffotosynthesis
  • Ysydd cam un

    Yr organeb cyntaf sy'n bwyta yn y cadwyn bwyd
  • Ysydd cam dau
    Yr ail organeb sy'n bwyta yn y cadwyn bwyd
  • Ysydd cam tri
    Y trydydd organeb sy'n brutal mewn y cadwyn fwyd
  • Llysysydd
    Orgqneb sy'n bwyta planhigion yn unig
  • Cigysydd
    Organeb sy'n bwyta anifeiliaid yn unig
  • Hollysydd
    Organeb sy'n bwyta anifeiliaid a phlanigion
  • Colledion egni
    Heb ei ddefnyddio ar gyfer ffotosynthesis
    Planhigion marw
    Anifeiliaid marw
    Ysgarthiad
    Carthiad
    Egni gwres o resbiradaeth
  • Egni gwreiddiol cadwyn bwyd

    Golau'r haul
  • Pyramidal rhif
    Dangos y nifer o planhigion neu anifeiliaid
  • Pyramid biomas
    Dangos mas sych planhigion neu anifeiliaid
  • Dadelfenyddion
    Treulio gwastraff anifeiliaid a planhigion
    Caiff mwynau (nitrogen a charbon) eu rhyddhau i'r pridd
    Bacteria a ffwngws
  • Y cylchred carbon
    1 - planhigion yn amsugno co2 ar gyfer ffotosynthesis
    2 - planhigion a anifeiliaid yn rhyddau co2 yn ystod resbiradaeth
    3 - planhigion a anifeiliaid yn marw neu rhyddau gwastraff, bacteria a ffwngws yn treulio fe a rhyddhau carbon mewn i'r pridd
    4 - bacteria a ffwngws yn resbiradu hefyd
    5 - cael tanwyddau ffosil o'r pudding ac yna yn llosgi nhw sydd yn rhyddau co2
  • Planhigion gwyrdd sy’n cyflawni ffotosynthesis yw’r cynhyrchwyr. Maen nhw’n defnyddio egni golau o’r haul i drawsnewid carbon deuocsid o’r aer, a dŵr o’r pridd, yn glwcos ac ocsigen. Mae organebau eraill yn gallu bwyta’r glwcos hwn ac yna ei ddefnyddio ar gyfer resbiradaeth, sy’n rhyddhau’r egni sydd wedi’i storio yn y glwcos. Yna, byddant yn gallu defnyddio’r egni hwn ar gyfer eu prosesau bywyd.
  • Dydy cadwynau bwyd ddim yn aml yn hirach na phedair lefel droffig, oherwydd mae egni’n cael ei ddefnyddio neu ei golli ar bob lefel.
  • Mae egni’n cael ei drosglwyddo ar hyd cadwynau bwyd, ond mae swm yr egni sydd ar gael yn lleihau o un lefel droffig i’r nesaf. Y rheswm dros hyn yw mai dim ond tua 10 y cant o’r egni sy’n cael ei drosglwyddo i’r lefel droffig nesaf.
  • Dyma un ffordd mae llygryddion yn gallu mynd i mewn i gadwyn fwyd. Mae'r llygrydd yn cael ei olchi i mewn i afonydd a llynnoedd. Mae'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd drwy lynu at gynhyrchwyr neu gael ei amsugno ganddyn nhw. Pan mae'r cynhyrchydd yn cael ei fwyta, mae'r llygrydd sydd ynddo'n cael ei drosglwyddo i'r lefel droffig newydd. Nid yw’n cael ei dorri lawr ac felly mae’n aros ym meinweoedd y corff. Y llygrydd yn parhau i gronni, gan gynyddu mewn crynodiad, wrth iddo symud i fyny'r gadwyn fwyd. Erbyn iddo gyrraedd y cigysydd uchaf, bydd y llygrydd wedi cynyddu i'r fath raddau nes ei fod yn wenwynig, gan leihau ffrwythlondeb neu hyd yn oed achosi marwolaeth.
  • Os aiff carthion heb eu trin i afonydd, bydd micro-organebau'n eu dadelfennu nhw. Mae niferoedd y micro-organebau’n cynyddu'n ddramatig ac maen nhw'n defnyddio ocsigen o'r dŵr i gyflawni resbiradaeth aerobig. O ganlyniad, mae llai o ocsigen wedi hydoddi yn y dŵr, felly efallai na fydd organebau dyfrol fel pysgod a phryfed yn gallu goroesi.
  • Gwrteithiau nitrad
    Mae'r rhain yn hydawdd, ac os cânt eu chwistrellu ar gnydau maen nhw'n golchi i mewn i afonydd a llynnoedd yn hawdd, sef trwytholchi. Gallwn ni amlinellu'r broses fel hyn. Mae mwy o nitradau yn y dŵr yn cynyddu twf algâu a phlanhigion. Mae'r algâu'n ffurfio blŵm dros arwyneb y dŵr, gan atal golau'r haul rhag cyrraedd planhigion eraill yn y dŵr. Mae'r planhigion hyn yn marw oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu cyflawni ffotosynthesis heb olau. Mae niferoedd microbau fel bacteria yn cynyddu wrth iddyn nhw ddadelfennu y planhigion marw, gan ddefnyddio ocsigen o'r dŵr i resbiradu wrth wneud hynny. Mae'r lefelau ocsigen yn isel ar ôl hyn, sy'n gallu achosi i bryfed dyfrol a physgod fygu, ac yn y pen draw mae'r llyn yn gallu mynd yn gwbl ddifywyd.
  • Mae carbon yn cael ei drosglwyddo o’r atmosffer, fel carbon deuocsid, i bethau byw. Yna, mae’n cael ei drosglwyddo o un organeb i’r nesaf mewn moleciwlau cymhleth, ac yn cael ei ddychwelyd i’r atmosffer fel carbon deuocsid unwaith eto. Yr enw ar y broses hon ydy’r gylchred carbon.
  • Mae planhigion yn defnyddio carbon deuocsid o'r atmosffer ar gyfer ffotosynthesis. Mae'r carbon yn dod yn rhan o foleciwlau cymhleth yn y planhigion, megis proteinau, brasterau a charbohydradau.
  • Mae anifeiliaid yn cael eu carbon drwy fwyta planhigion neu anifeiliaid eraill.
  • Mae carbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer trwy resbiradaeth gan anifeiliaid, planhigion a micro-organebau. Mae hefyd yn cael ei ryddhau trwy hylosgiad pren a thanwydd ffosil (megis glo, olew a nwy naturiol). Mae’r defnydd o danwydd ffosil yn cynyddu lefel y carbon deuocsid yn yr atmosffer yn raddol.
  • Mae dadelfeniad neu bydredd yn rhyddhau carbon deuocsid hefyd. Mae’r broses hon yn digwydd yn gyflymach mewn amodau cynnes, llaith gyda digon o ocsigen gan ei fod yn cynnwys micro-organebau. Mae pydredd yn gallu bod yn araf iawn mewn amodau oer, sych a lle does dim llawer o ocsigen.
  • PCBau yn adeiladu ar hyd y cadwyn fwyd / crynodiad yn cynhyddu
  • Effaith PCBau ar anifeiliaid

    Marwolaeth
    Llai ffrwythlon / atal atgynhedlaeth
  • Gwrtaith ddim yn cynnwys nitradau
  • Dim ond 1% o'r egni haul sy'n cael eu hamsugno gan planhigion - adlewyrchu neu ar y tonfedd
  • Llif egni
    Gwastraff o blanhigion (marw)
    Gwastraff o anifeiliad (marw, ysgarthiad, carthion)
  • Rhaid cael datblygwr i gynnal asesiad o'r effeithiau ar yr amgylchedd neu gallen nhw wynebu dirwy fawr
  • Rhaid cael effaith leiaf ar fywyd gwyllt
  • Dangos os oes unrhyw rhywogaethau yn brin neu mewn perygl yn yr ardal
  • Nod ffermio dwys yw cynhyrchu gymaint a phosibl o gynyrch ar y tir sydd ar gael
    Defnyddio cemegau ar y tir
    Metelau trwm - mercwri, cadiwm, arsenig, cromiwm, plwm
    Gall rhain cronni yn y cadwyn fwyd nes cyrraedd lefel wenwynig
  • Plaleiddiad
    Cemegau i ladd pryfed, chwyn a mirco-organebau
    Gall mynd mewn y cadwyn fwyd - ni all yr organebau sy'n cael eu llyncu cael eu torri lawr, felly mae nhw'n aros yn y corff
  • Engrhaifft o blaleiddiad yw DDT
    Gall y cemegau hyn cronni nes cyrraedd lefelau uchel iawn
    DDT ddim yn cael i'w ysgarthu
  • Gwrteithau yn cynnwys mwynau sydd ei hangen ar blanhigion i dyfu (nitradau a ffosffadau)
  • Carthion heb eu drin yn achosi cynnydd yn nhwf planhigion dwr
  • Mae angen nitrogen ar organebau byw i creu proteinau
  • Ni all planhigion ac anifeiliad defnyddio nwy nitrogen
  • Rhaid troi i nitradau cyn i blanhigion ei ddefnyddio