Ar ddiwedd y ddrama, daw'r cyfaddaws rhwng Siwan a Llywelyn. Ond mae un peth yn poeniSiwan - pwy sydd â'r hawl i faddau. Dywed os yw'n gadael i Lywelyn "faddau" iddi, fod hynny'n gyfystyr â chyfaddef ei bod wedi gwneud rhywbeyh o'i le.
"Cynddared Cenfigen" - oedd achos crogi Gwilym Brewys. Yr hyn sy'n eironig yw mai cenfigennus o'r berthynas fer, hapus, serchus rhwng Siwan a Gwilym y mae Llywelyn.
Mae nws ac awyrgylch yr act hon yn llai cyffrous na'r act gyntaf, lle cawsom rhanant rhwng Siwan a Gwilym a'r cyffro wrth i Lywelyn eu darhanfod. Dydy'r tyndra dwys a'r ofn yn sgil y dienyddiad yn acr 2 ddim yma ychwaith.
Yn y bôn, sgwrs rhwng Siwan ac Alis sydd yn yr act hon, yn y tŵr lle bydd Siwan yn cael ei charcharu. Mae'r act yn llawn tyndra a chynbwf wrth idd symud at uchafbwynt gyda dienyddiad Gwilym.
Cychwynnir yr act trwy gyflwyno Siwan a'i morwyn. Alis, wedi iddynt fod mewn gwleds a dawns i ddathlu dyweddiad mab Siwan (Dafydd) gyda Isboella (Gwilym).
Mar'r gwely priodasol yn lle arwyddocâol sydd wrth wraidd creu teulu a perthynas rhwng gŵr a gwraig. Mewn teulu brenhinol. Mae'r gwely priodasol yn troi yn symbol o fethiant y briodas. Nid yw Llywelyn a Siwan yn rhannu y gwely am flwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwn mae'r Deyrnas yn mynd mewn argyfwng.