Y gwaed yw'r hylif sy'n cario sylweddau o gwmpas y corff yn eich system gylchrediad
Mae'r gwaed yn cynnwys 55% o plasma
Mae'r gwaed yn cynnwys 45% o celloedd coch, celloedd gwyn a platennau
Mae celloedd coch y gwaed yn cynnwys haemoglobin er mwyn cludo ocsigen
Un addasiad yr celloedd coch yw siap deugeugrwn ar gyfer cynyddu arwynebedd arwyneb i amsugno mwy o ocsigen
Un addasiad yr celloedd coch yw mae'n cynnwys haemoglobin sydd a protein (haearn) sy'n cludo'r ocsigen. Os mae diffyg haearn fydd yn arwain at anemia
Anemia yn golygu fyd yn blinedig gan fod llai o haemoglobin felly llai o ocsigen i'r celloedd resbiradaeth anaerobig, llai o egni
Un addasiad yr celloedd coch yw dim cnewyllyn felly mae mwy o le ar gyfer haemoglobin
Un addasiad yr celloedd coch yw mae'n hyblyg felly mae'n ffitio trwy capilariau tenau
Un addasiad yr celloedd coch yw cellbilen tenau iawn i lleihau pellter tryledu ocsigen
Mae celloedd gwyn y gwaed yn amddiffyn rhag pathogenau (firysau, bacteria) all achosi clefydau
Mae celloedd gwyn a ddau fath gwahanol sef ffagocyt a lymffocyt
Mae ffagocyt yn amlyncu bacteria a firysau sy' achosi afiechyd
Mae lymffocyt yn creu gwrthgyrff (antibodies) sy'n ymladd pathogenau yn y corff
Nid oes gan platennau cnewyllyn
Mae platennau yn ceulo/tolchennu (clotting) y gwaed
Mae platennau yn stopio gwaedu os oes chwyf
Mae platennau yn atal pathogenau rhag dod mewn
Mae platennau yn ffurfio crachen. Tolchen yw'r enw ar y haen sy'n cau'r chwyf ac mae'n caledu i ffurfio crachen. O dan y grachen, bydd croen newydd yn tyfu ac yn y diwedd bydd y grachen yn dod yn rhydd
Mae'r galon yn ddau pwmp, un i bwmpio gwaed i'r ysgyfaint a nol, a'r llall i bwmpio gwaed i'r corff ac yn ol
Mae gwythiennau (veins) yn cluudo pethau nol i'r galon
Mae rhydweliau (artery) yn cludo pethau o'r galon
Mae capilariau yn cysylltu ac yn cyfnewid
Mae gwaed gydag ocsigen ar yr ochr chwith (inverted)
Mae gwaed heb ocsigen ar yr ochr dde (inverted)
Mae rhydweliau yn fath o bibell gwaed ac mae'n cario gwaed i ffwrdd o'r galon arpwysedd uchel (ac yn ocsigenedig)
Mae gwythiennau yn fath o bibell gwaed ac mae'n cario gwaed (daadocisgenedig) nol i'r galon
Oherwydd y lwmen mawr a'r pellter o'r galon mae gwaed a gwasgedd isel sydd yn y gwythiennau
Mae rhydweliau gyda pwls
I helpu cael gwaed nol i'r galon mae falfiau yn y gwytthiennau. Mae'r falfiau yn sicrhau bod y gwaed yn teithio mewn un cyfeiriad yn unig
Mae capilariau yn fath o bibell gwaed
Mae gwaed yn llifo o rhydweliau i'r capilariau
Mae pwysedd y gwaed yn gwthio hylif allan drwy wal drwch un gell y capilariau. Mae'r hylif yma yn debyg i blasma ac yn cynnwys glwcos, asidau amino, halwynau, celloedd gwyn ond dim celloedd coch (gelwir yn hylif meinweodd)
Wrth i'r gwaed deithio drwy'r capilariau mae'n derbyn gwastraff wrea a charbon deuocsid o gelloedd y corff
Mae'r gwaed yn llifo o'r capilariau i mewn i wythien ac yn ol i'r galon
Mae gan capilariau wal tenau (1 cell trwch) felly mae pellter tryledu yn fyr
Mae celloedd coch yn rhy fawr i gadael y capilariau