THEMA 1C

Cards (14)

  • David Hume
    Athronwr o'r Alban yn yr 18fed ganrif - Hollol yn erbyn dadlau fod Duw wedi creu'r byd (teleolegol + cosmolegol) sef dadlau anwythol
  • Cosmolegol - Syniad 1 - Hume
    Nid yw rheswm yn gallu cael ei ddefnyddio fel offeryn i brofi bodolaeth unrhywbeth, oherwydd mae gan pawb rhesymeg, gallu a chrefydd gwahanol
  • Cosmolegol - Syniad 2 - Hume
    Mae yna dau ffordd i brofi bodolaeth rhywbeth:
    • Ydy o'n gallu cael ei brofi trwy ffeithiau?
    • Ydy o'n gallu cael ei brofi trwy mathemateg neu gwyddoniaeth?
    Ffaith - mae ffeithiau yn cael ei brofi trwy'r synhwyrau, a nid ydych yn gallu synhwyro Duw
    Maths/Gwyddoniaeth - mae Duw yn ymwneud ar bydysawd, a felly profiad yw o - rhaid defnyddio ffeithiau
  • Cosmolegol - Syniad 3 - Hume
    Mae gwybodaeth yn deillio o'n synwyr, a felly ein brofiadau. Os nad ydym yn gallu profi Duw trwy'r synhwyrau, dyw Duw ddim yn bodoli
  • Cosmolegol - Syniad 4 - Hume
    Mae'n wan i awgrymu fod pethau yn bodoli oherwydd synwyr cyffredin
    Synwyr cyffredin ond yn addas wrth ymdrin a phethau dynol
    Hyd yn oed os oes gan y bydysawd dechreuad a chreawdwr, pwy sydd i ddweud taw hyn yw Duw Cristnogol?
  • Teleolegol - Hume a chydweddiadau
    Hume yn gwrthod cydweddiad Paley, sef yr oriawr, oherwydd mae'n wan gan nad oes rheswm (mathemateg, gwyddoniaeth) neu ffeithiau i brofi rhywbeth mor abstract (haniaethol) a Duw, fel gallwch gyda rhywbeth bydol
    Nid ydych yn gallu rhagdybio chwaith, oherwydd dydych methu defnyddio eich synhwyrau i brofi Duw
  • Teleolegol - Hume a synwyr cyffredin
    Pan ydych yn edrych ar yr oriawr, ni fyddai pawb yn meddwl yr un peth oherwydd mae gan pawb synwyr cyffredin gwahanol - methu defnyddio synwyr cyffredin i brofi Duw
  • Charles Darwin
    Gwyddonwr o'r 19G wnaeth cyflwyno'r ddadl esblygiad trwy ei lyfr 'On the Origin of Species' , oedd wedi arwain at llawer o bobl yn symud i ffwrdd o'r syniad o Dduw yn creu y bydysawd
  • Richard Dawkins
    Datblygodd ar ei syniadau ymhellach, gan cyflwyno'r syniad o DNA
  • Syniadau Dawkins
    Gwrthodd y syniad o greawdwr (Duw) oherwydd fod hap a ddamwain yn byd DNA a moleciwlau yn rheswm da dros ein bodolaeth.
    Rydym wedi datblygu o wyddoniaeth, nid Duw.
    Deillia prydferthwch natur o ddatblygiadau naturiol, yn ogystal a pobl yn edrych ar ol y byd. Mae bodau dynol wedi cynllunio i ddatblygu ac atgynhedlu, e.e sut mae dynion efo genynnau atyniadol i gael partner.
  • Y Glec Fawr
    Ffordd wyddonol o esbonio dechreuad y bydysawd
    Ffrwydrad poeth dros 13 biliwn o flynyddoedd yn ol wnaeth dechrau ein bydysawd ni
  • Dadl cosmolegol ar glec fawr
    Mae'n bosib i rai pobl derbyn y glec fawr a'r ddadl cosmolegol
  • Problem cosmolegol a'r glec fawr
    Os mae rhywun yn credu yn y glec fawr a'r ddadl cosmolegol, mae'r cwestiwn wedyn yn codi o ba un daeth yn gyntaf?
    Os oedd y glec fawr wedi dod yn gyntaf, nid yw Duw yn drosgynnol, ac felly nid yw Duw yn greawdwr neu yn gynllunydd
  • Duw theistaidd clasurol
    Duw Cristnogol - Hume - Sut ydym yn gwybod taw ddim Duw prentis wnaeth wneud y byd? Neu nifer o dduwiau llai?