THEMA 3A

Cards (13)

  • Prif dadl anffyddwr
    Mae dioddefaint a drygioni yn bodoli, felly sut all Duw bodoli?
  • Drygioni moesol
    Canlyniad i ewyllus rhydd e.e llofruddiaeth, caethwasiaeth, terfysgaeth, camdrin plant
    Os yw dyn sydd ar fai, ydy Duw wir yn atebol am hyn?
  • Drygioni naturiol
    Unrhyw dioddef sy'n digwydd o ganlyniad i weithredoedd tu hwnt i reolaeth ewyllus rhydd - Drefn naturiol
    E.e daeargrynfeydd, swnami, afiechyd, henaint
  • Y triad anghyson / Triad Epicurus
    Problem clasurol o ddrygioni a dioddefaint
    Os ydy Duw eisiau cael gwared o ddioddefaint ond dyw o methu, nid yw'n hollbwerus
    Os ydy Duw yn gallu cael gwared o ddioddefaint ond ddim yn fodlon, nid yw'n hollgariadus
    Os ydy Duw yn gallu cael gwared ac yn fodlon, pam ydyn ni'n dioddef?
  • Casgliad Hume ac Aquinas
    Nid yw Duw yn bodoli oherwydd y Triad anghyson
    Tystiolaeth yng nghwaith Aquinas (Summa Theologica) sydd i raddau yn cefnogi hyn
  • Syniadau William Rowe
    Awgrymodd nad oes ffordd i Dduw gyfiawnhau dioddefaint
    Canolbwyntiodd ar achosion o ddioddefaint pobl ac anifeiliaid
    Os bysai Duw yn hollalluog, byddai yn stopio dioddefaint er 'daioni mwy' (greater good) felly dyw Duw methu bod yn dda
    Rowe yn cydnabod y gall fod yn anghywir - rhesymau dros dioddefaint
  • J.L Mackey
    Athronydd o Awstralia wnaeth ceisio datblygu'r triad anghyson ymhellach
    Cytuno efo'r triad (nid yw'n bosib credu yn y tri gydai gilydd) ond yn gofyn pam nad oedd Duw wedi creu'r bydysawd yn berffaith yn y lle cyntaf?
    Datrysiad yw i trio cymryd un o bwyntiau'r triad anghyson i ffwrdd
  • Syniad Mackey o'r triad
    Duw naill ai yn hollgariadus neu yn hollalluog
    Neu, nad oes drygioni
    Efallai nad yw drygioni a dioddefaint ddim yn beth yr ydym ni'n meddwl, efallai ond Duw sydd wir yn deall ystyr rhain
  • Cydweddiad y rhiant ar blentyn
    Plentyn yn ceisio cyrraedd ffwrn er mwyn cyffwrdd sosbon o ddwr berwedig, ac mae oedolyn yn taro nhw i gael i ffwrdd - brifo, ond ddim yn gwybod fod hyn wedi achub nhw o boen waeth
  • Gwrthwynebiad gwaith Mackey
    Llawer o athronwyr yn gwrthod gwaith Mackey - lot fawr o ddioddefaint dwys yn bodoli e.e malaria, AIDs, hil-laddiad fel yr Holocaust neu Rwanda, dioddefaint erchyll i filiynau
  • Marwolaethau cydamserol
    Holocaust y plant - Gregory S Paul
    Gwrthwynebu'r syniad o Dduw clasurol - amhosib i greawdwr moesol bodoli
    Babanod yn dioddef - afiechydon, nam corfforol, a.y.y.b
    Canran o blant yn dioddef yn fwy nag oedolion
    Tanseilio dysgeidiaeth Cristnogol, methu achub babanod diniwed
  • Marwolaethau cydamserol a Pro Life
    Nid oes dadl i’r fudiad ‘Pro-life’
    Duw methu achub plant, felly pam dylem gwahardd erthyliad? Duw ddim yn ystyried bywyd yn bwysig
  • Anifeiliad a dioddefaint
    Athronwyr sy’n cwestiynu dioddefaint anifeiliaid yn bodoli
    Genesis - credowyr undduwiog yn dweud - bodau dynol gyda statws uwch nag anifeiliaid
    Crefyddau’r dwyrain e.e Bwdaeth yn ystyried anifeiliaid yr un mor bwysig a phobl
    Richard Dawkins - the selfish Gene - rydym yn blaenoriaethu bodau dynol