Mae’r ffilm Patagonia wedi ei lleoli yng Nghymru ac ym Mhatagonia.
Yn y ffilm, mae dwy stori sy’n plethu drwy’i gilydd – stori Gwen a Rhys a stori Cerys ac Alejandro.
Ffilm lôn ydy Patagonia achos mae’r cymeriadau yn mynd ar deithiau arbennig:
Mae Gwen yn mynd ar daith i ddod o hyd i’w hun a dod o hyd i ystyr i’w bywyd.
Mae Rhys yn mynd ar daith gyda’i waith fel ffotograffydd.
Mae Cerys yn mynd ar daith i ddod o hyd i’w hanes.
Mae Alejandro yn mynd ar daith annisgwyl, ond yn darganfod llawer amdano’i hun wrth wneud.