Treiglad Feddal

Cards (19)

  • Treiglad meddal yn dilyn yr arddodiaid - am, ar, at, gan, heb, i, o, dan, dros, drwy, wrth, hyd

    E.e: am cariad > / i Casnewydd > / drwy twyll >
    am gariad / i Gasnewydd / drwy dwyll
  • Treiglir yn feddal yn dilyn rhagenw dibynnol blaen ail berson unigol ('dy')

    E.e: dy brawd > / dy pensil > / dy meddwl >

    dy frawd / dy bensil / dy feddwl
  • Treiglir yn feddal yn dilyn rhagenw dibynnol blaen 3ydd person unigol gwrywaidd ('ei')

    E.e: ei pen ef > / ei trwyn ef > / ei ceg ef >
    ei ben ef / ei drwyn ef / ei geg ef
  • Treiglir enwau benywaidd unigol ar ôl y fannod yn feddal
    EITHRIAD - dyw 'll' na 'rh' ddim yn treiglo ar ôl y fannod

    E.e: y merch > / y buwch > / y llinell hon >
    y ferch / y fuwch / y llinell hon
  • Treiglir ansoddeiriau'n feddal yn dilyn enw benywaidd unigol

    E.e: y gadair du > / y ddesg pren > / y ddaear caled >
    y gadair ddu / y ddesg bren / y ddaear galed
  • Treiglir yn feddal yn dilyn y cysylltair 'neu'

    E.e: halen neu pupur > / ci neu cath > / bachgen neu merch >

    halen neu bupur / ci neu gath / bachgen neu ferch
  • Treiglir ansoddeiriau'n feddal yn dilyn 'yn' traethiadol

    E.e : yn bach > / yn doniol > / yn creadigol >
    yn fach / yn ddoniol / yn greadigol
  • Treiglir ail elfen gair cyfansawdd yn feddal

    E.e: gwyrddglas > / browncoch > / craspoeth >
    gwyrddlas / browngoch / crasboeth
  • Treiglir enwau benywaidd unigol yn feddal yn dilyn y rhifolyn un

    E.e: un cadair > / un menyw > / un coes >
    un gadair / un fenyw / un goes
  • Treiglir yn feddal yn dilyn y rhifolion dau a dwy

    E.e: dau pen > / dwy ceiniog > / dau bwrdd >
    dau ben / dwy geiniog / dau fwrdd
  • Treiglir berf yn feddal yn dilyn y geiryn rhagferfol cadarnhaol 'fe/mi'

    E.e: mi clywais > / fe gwelais i > / mi rhedais >
    mi glywais / fe welais i / mi redais
  • Treiglir berf yn feddal yn dilyn y geiryn rhagferfol negyddol 'ni' os yw'r gair yn dechrau gyda b,d,g,ll,m,rh

    (Treiglir yn llaes yn dilyn y geiryn rhagferfol negyddol os yw'r gair yn dechrau gyda p,t,c.)
    E.e: ni bwytais > / ni meddyliais > / ni gwyliais >
    ni fwytais / ni feddyliais / ni wyliais
  • Treiglir yr enw'n feddal pan fydd yr ansoddair yn dod o flaen yr enw.

    E.e: Hen tŷ > / amryw pethau > / ambell dyfyniad >
    Hen / amryw bethau / ambell ddyfyniad
  • Treiglir yn feddal yn dilyn ansoddair dangosol 'dyma' / 'dyna'.

    E.e: Dyma pensil coch > / dyna mynydd carregog > / dyma bag glas
    Dyma bensil coch / dyna fynydd carregog / dyma fag glas
  • Treiglir yn feddal mewn cyfarchiad

    E.e: brodyr a chwiorydd! > / merched > / blwyddyn 12! >
    Frodyr a chwiorydd! / ferched! / flwyddyn 12!
  • Treiglir yn feddal yn dilyn y rhagenw perthynol 'a'

    E.e: Dyma'r dyn a gwelais > / dyma'r bachgen a llwyddodd / Sam a gwelodd >
    Dyma'r dyn a welais / dyma'r bachgen a lwyddodd / Sam a welodd
  • Treiglir yn feddal yn dilyn cymal sangiadol

    E.e Dyma'r dyn, a welwyd neithiwr ar bwys y car, dihangodd o'r carchar.
    Dyma'r dyn, a gwelwyd neithiwr ar bwys y car, ddihangodd o'r carchar.
  • Treiglir wrthrych berf peronol gryno yn feddal
    E.e Gwelaf castell
    Gwelaf gastell
  • Treiglir oddrych berf personol gryno yn feddal
    E.e gwelaf merch
    Gwelaf ferch