Treiglad Llais

Cards (5)

  • Treiglir yn llaes yn dilyn y cysylltair 'a' a'r cysylltair negyddol 'na'

    E.e ci a cath > / halen a pupur > / na ty na twlc
    ci a chath / halen a phupur / na thy na thwlc
  • Treiglir yn llaes ar ôl y rhifolion tri, chwe, naw

    E.e tri ceffyl > / chwe punt > / naw blynedd >

    tri cheffyl / chwe phunt / naw mlynedd
  • Treiglir yn llaes yn dilyn rhagenw dibynnol blaen 3ydd person unigol 'ei' benywaidd

    E.e ei pen hi > / ei trwyn hi > / ei clust hi >
    ei phen hi / ei thrwyn hi / ei chlust hi
  • Treiglir yn llaes yn dilyn geiryn rhagferfol negyddol 'ni', 'na', 'oni' os yw'r gair yn dechrau gyda p,t,c (ond yn feddal os yw'r gair yn dechrau gyda b,d,g,ll,rh, m.)

    E.e ni clywais > / oni cawn > / na clywn >
    ni chlywais / oni chawn / na chlywn
  • Treiglir yn llaes yn dilyn yr arddodiad 'â'

    E.e â cap > / â penwisg > / â teledu
    â chap / â phenwisg / â theledu