Trylediad Cynorthwyedig

Cards (8)

  • dydy moleciwlau mawr fel glwcos ddim yn mynd drwy'r gellbilen yn rhwydd gan ei bod yn anhydawdd mewn lipid
  • protein cynhenid yn pontio'r bilen o un ochr i'r llall ac helpu molecwlau tryledu mewn neu allan
  • dau fath o proteinau sy'n cynorthwyo: proteinau sianel a phroteinau cludo
  • proteinau sianel yn cynnwys mandyllau wedi'u leiinio a grwpiau polar hydroffilig: caniatau i ionau a gwefr fynd drwyodd; hefyd yn gallu agor a chau
  • proteinau cludo: caniatau trylediad cynorthwyedig moleciwlau polar mwy: mae moleciwl penodol yn glynu wrth safle rhwymo protein cludo ac yn achosi i'r protein cludo newid siap neu gylchdroi o fewn y bilen
  • mae proteinau cludo a phroteinau sianel yn cynyddu cyfradd trylediad ar hyd graddiant crynodiad heb fod angen egni ar ffurff ATP
  • math o drylediad cynorthwyedig yw cydgludiant: dod a moleciwlau i mewn i gelloedd gyda'i gilydd ar yr un protein cludo
  • mae cydgludiant sodiwm-glwcos yn arwyddocaol wrth amsugno glwcos ac ionau sodiwm ar draws cellbilenni ac i'r gwaed yn yr ilewm a neffron yr aren