Swyddogaethau - Celloedd Ewcaryotig

Cards (16)

  • Cnewyllyn
    • cynnwys DNA sy'n codio ar gyfer synthesis proteinau neu'n rheoli'r broses
    • dyblygu DNA yn digwydd yma
    • mae trawsgrifiad cynhyrchu templedi mRNA
  • Mandyllau Cnewyllol
    • caniatau cludiant mRNA a ribosomau allan o'r cnewyllyn
  • Amlen Gnewyllol neu Bilen Ddwbl
    • gwahanu cynnwys y cnewyllyn oddi y cytoplasm
  • Cnewyllan
    • cynhyrchu rRNA, tRNA a ribosomau
  • Cromatin
    • cyddwyso cyn cellraniad i ffurfio cromosomau
  • Reticwlwm Endoplasmig Garw
    • pecynnu a storio proteinau
    • cynhyrchu fesiglau cludiant sy'n cyfuno i ffurfio organigyn golgi
  • Reticwlwm Endoplasmig llyfn
    • cynhyrchu, pecynnu a chludo steroidau a lipidau
  • Organigyn Golgi
    • pecynnu proteinau i'w secretu o'r gell
    • addasu proteinau e.e. trwy ychwanegu cadwynau carbohydrad i ffurfio glycoproteinau
    • cynhyrchu lysosomau ac ensymau treulio
  • Lysosomau
    • cynnwys ensymau treulio pwerus i ddadelfennu hen organynnau neu gelloedd
    • mae ffagocytau'n defnyddio lysosomau i dreulio bacteria wedi'i amlyncu
  • Centriolau
    • ffurfio werthyd yn ystod cellraniad
    • ddim yn presennol mewn celloedd planhigyn mwy datblygedig
  • Mitocondria
    • synthesis ATP drwy gyfrwng resbiradaeth aerobig
  • Cloroplastau
    • cynnwys pigmentau ffotosynthetig sy'n dal egni golau ar gyfer ffotosynthesis
  • Gwagolyn
    • mae'n cynnwys cellnodd ac yn storio hydoddion fel glwcos
    • chwyddo oherwydd osmosis ar gyfer chwydd dyndra
  • Ribosomau
    • synthesis proteinau
    • mae adeiledd protein cynradd yn cael ei ffurfio yn y ribosom
  • Plasmodesmata
    • cysylltu celloedd drwy sianeli llawn cytoplasm sy'n mynd drwy gellfuriau
    • caniatau cludiant ar hyd y llwybr symplast
  • Cellfur
    • cryfder mecanyddol oherwydd cryfder tynnol uchel microffibrolion cellwlos
    • cludiant hydoddion ar hyd y llwybr apoplast
    • defnyddio'r plasmodesmata i gyfathrebu rhwng celloedd