mae cynhyrchion ffotosynthesis yn cael eu defnyddio ar gyfer twf neu'n cael eu storio
mewn planhigion y broses o gludo defnyddiau organig hydawdd, swcros ac asidau amino yw trawsleoliad
mae pedwar math o gell mewn meinwe ffloem
tiwbiau hidlo
cymargelloedd
ffibrau ffloem
parencyma ffloem
mae tiwb hidlo wedi'i wneud o elfen hidlo neu gelloedd hidlo
swyddogaeth cell hidlo yw i gludo defnyddiau organig fel swcros ac asidau aminio
mae tiwbiau hidlo yn ffurfio o gelloedd elfennau wedi'u gosod ben wrth ben - dydy'r pennau waliau ddim yn ymddatod ond mae mandyllau ynddynt: mannau hwn yw platiau hidlo
ffilamentau cytoplasmig yn cynnwys protein ffloem yn ymestyn o un gell hidlo i'r nesaf drwy'r mandyllau yn plat hidlo
does dim cnewyllyn mewn tiwbiau hidlo ac mae'r rhan fwyaf o organynnau cell eraill yn dadelfennu wrth i'r tiwb hidlo ddatblygu
mae platiau hidlo sy'n cynnwys mandyllau yn caniatau llif i'r ddau gyfeiriaid o elfen i elfen drwy'r planhigyn i gyd
mae'r cytoplasm yn denau heb ddim organynnau mawr sy'n caniatau i gynhyrchion ffotosynthesis lifo heb rwystr
mae plasmodesmata yn bresennol sy'n caniatau cludiant ATP o'r gymargell i'r elfen tiwb hidlo
gan y cymargelloedd gytoplasm dwys, cnewyll mawr canolog, llawer o fitocondria, reticwlwm endoplasmig garw ac organigyn golgi
mae plasmodesmata yn eu cysylltu nhw a'r elfennau tiwb hidlo
mae cymargelloedd yn gwneud proteinau ac ATP ar gyfer y celloedd/ elfennau tiwb hidlo