“Dyna pryd roedd Mared ar ei hylla, yn marn Robin - pan oedd hi’n chwerthin. Byth yn chwerthin o’i chalon, byth yn chwerthin efo rhywun fel y byddai hi gynt ond bob amser yn chwerthin ar draul rhywun arall - ei brawd ei hun gan amla - fel pe bai hi wedi suro ac am ddial ar bawb a phopeth”