1.4

Subdecks (1)

Cards (24)

  • Beth yw metabolaeth?
    Proses lle caiff adweithiau anabolig a chatabolig eu cataleiddio gan ensymau.
  • Beth yw ensymau?
    Proteinau adeiliedd siap trydyddol yw ensymau ac felly mae ganddynt siap 3D penodol iawn, sy'n cynnwys safle actif.
  • Beth yw ensymau mewngellol ac allgellol?
    Ensymau mewngellol yn gweithio y tu mewn i gelloedd; ensymau allgellol yn cael eu secretu o gelloedd i'w ddefnyddio tu allan.
  • Beth yw safle actif ensym?
    Safle penodol iawn a gaiff ei dal at ei gilydd gan fondiau peptid, hydrogen, ionig, a deusylffid.
  • Beth yw damcaniaeth ffit anwythol gan ddefnyddio lysosym fel enghraifft?
    Yn y damcaniaeth hon, nid yw'r safle actif a'r swbstrad yn gwbl ategol o ran eu siap. Mae grwpiau adweithio yn yr ardaloedd hyn yn alinio ac mae'r swbstrad yn gwthio ei hun i'r safle actif. Mae'r ddwy ardal yn newid eu hadeiledd ychydig, mae'r bondiau yn y swbstrad yn gwanhau ac mae'r adwaith yn digwydd ar lefel egni actifadu is.
  • Beth yw'r damcaniaeth clo ac allwedd?
    Mae'r swbstrad yn gwbl ategol i'r safle actif, gan ffurfio cymhlygyn ensym swbstrad. Mae'r adwaith yn digwydd a chaiff y cynhyrchion eu rhyddhau. Dydy'r ensym ddim yn newid o ran siap.
  • Sut mae'n bosib gostwng egni actifadu adwaith?
    Mae ensymau yn gatalyddion. Maent yn lleihau egni actifadu adweithiau ond maent yn aros yn ddigyfnewid yn yr adwaith.
  • Pa ffactorau sy'n effeithio ar ensymau?
    Tymheredd, pH, crynodiad y swbstrad, crynodiad yr ensym.
  • Sut mae tymheredd isel yn effeithio ar ensym?
    Ar dymereddau isel, mae egni cinetig yr ensym yn is, ac felly mae llai o wrthdrawiadau llwyddiannus.
  • Sut mae tymheredd uchel yn effeithio ar ensym?
    Os bydd y tymheredd yn parhau i gynyddu, mae'r engi cinetig yn cynyddu i bwynt lle bydd y dirgryniadau ym moleciwl yr ensym yn gwanhau rhai o'r bondiau sy'n dal adeiledd penodol y safle actif. Mae'r safle actif yn newid siap ac felly nid yw'r swbstrad yn gallu rwymo a'r ensym i greu cymhlygion ensym-swbstrad, ac felly mae'r ensym yn dadnatureiddio.
  • Sut mae pH yn effeitiho ar ensym?
    Mae gan y rhan fwyaf o ensymau pH optimwm. Bydd newidiadau bach o'r optimwm hyn naill ai uwchlaw neu islaw'r optimwm, yn achosi lleihad yn effeithiolrwydd yr ensym.
    Gall newidiadau mawr mewn pH amharu ar fondiau ionig a hydrogen yn yr ensym gan achosi i'r safle actif colli siap, gan atal cymhlygion ensym-swbstrad rhag ffurfio, a dadnatureiddio'r gell.
  • Sut mae crynodiad yr ensym a'r swbstrad yn effeithio ar ensym?
    Mae adwaith ensym yn dibynnu ar wrthdrawiadau llwyddiannus rhwng ensymau. Bydd gynnydd yng nghrynodiad y swbstrad yn cynyddu'r cyfradd adwaith.
    Ar grynodiadau ensym isel, bydd llai o wrthdrawiadau llwyddiannus oherwydd bod pob safle actif wedi llenwi gan sefydlogi'r cyfradd adwaith.
  • Beth yw atalydd cystadleuol?

    Mae atalyddion cystadleuol yn ategol o ran eu siap i safle actif ensym. Maent felly yn atal cymhlygion ensym-swbstrad rhaf ffurfio drwy atal y safle actif gael eu gyrraedd gan y swbstrad.
  • Beth yw atalydd anghystadleuol?
    Mae atalyddion anghystadleuol yn rwymo i'r ensym oddi wrth y safle actif, ar safle alosterig. Mae hyn yn newid siap y safle actif fel na ellir ffurfio unrhyw cymhlygion ensym-swbstrad.
  • Beth yw fanteision ensymau ansymudol?
    • Mwy sefydlog
    • Cynhyrchion heb eu halogi
    • Gellir eu hailddefnyddio
    • Gellir ychwanegu a thynnu ensymau yn hawdd