Mae tiwbiau hidlo ffloem yn cludo swcros ac asidau amino. Mae platiau hidlo a'r bennau'r elfennau hidlo, sy'n cynnwys mandyllau y mae ffilamentau cytoplasmig yn ymestyn drwyddynt, gan gysylltu celloedd. Nid oes unrhyw organynnau eraill yn yr elfennau hidlo. Mae cymargelloedd yn cynnwys llawer o mitocondria ar gyfer ATP a'r organynnau ar gyfer synthesis proteinau. Caiff proteinau a ATP eu pasio i'r elfennau hidlo drwy'r plasmodesmata.