Mae bondio ïonig yn digwydd pan fydd electronau allanol metel yn cael eu trosglwyddo i blisgyn electronau allanol anfetel.
beth yw priodweddau bondio ionig?
ymdoddbwynt a berwbwynt uchel
dargludo trydan pan yn hydawdd mewn dwr
brau
hydawdd mewn dwr
pa fath o bondio yw hyn? - ionig
beth yw bondio cofalent syml?
Mae bondiau cofalent yn ffurfio pan fydd atomau anfetel yn rhannu eu helectronau allanol er mwyn cwblhau eu plisgyn allanol a dod yn sefydlog.
beth yw priodweddau bondio cofalent syml?
ymdoddbwynt a berwbwynt isel
dargludydd trydan gwael
beth yw diamwnt?
bond cofalent enfawr
beth yw priodweddau deimwnt?
Ymdoddbwynt uchel iawn – caiff pob atom carbon ei fondio â phedwar atom carbon arall â bondiau cofalent y mae angen llawer o egni gwres i'w torri.
Caled iawn – eto oherwydd y ffaith bod pob atom carbon yn cael ei uno â phedwar atom carbon arall â bondiau cofalent cryf.
Ynysydd trydanol - nid oes gan ddiemwnt unrhyw electronau rhydd ac felly ni all ddargludo tryda
beth yw graffit?
Graffit yw alotrop mwyaf cyffredin carbon lle y caiff yr atomau carbon eu bondio'n gofalent â thri atom carbon eraill a'u trefnu mewn haenau neu gylchoedd hecsagonol.
beth mae graffit yn cael ei defnyddio am ?
pensiliau
beth yw priodweddau graffit?
Ymdoddbwynt uchel iawn – caiff pob atom carbon ei fondio â thri atom carbon arall â bondiau cofalent y mae angen llawer o egni gwres i'w torri.
Meddal a llithrig wrth gyffwrdd – caiff yr atomau o fewn pob haen eu dal ynghyd gan fondiau cofalent cryf ond caiff yr haenau eu hunain eu dal ynghyd gan rymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan.
Dargludydd trydan da – gall yr electronau dadleoledig rhwng yr haenau gario egni trydanol
beth yw priodweddau nanotiwbiau?
Cryf iawn – caiff pob atom carbon ei fondio â thri atom carbon arall â bondiau cofalent cryf y mae angen llawer o rym i'w torri.
Meddal a llithrig wrth gyffwrdd – caiff yr atomau o fewn pob tiwb eu dal ynghyd gan fondiau cofalent cryf ond caiff y tiwbiau eu hunain eu dal ynghyd gan rymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan. Mae hyn yn golygu gall y tiwbiau o atomau carbon lithro dros ei gilydd yn hawdd pan gymhwysir grym.
Dargludydd trydan da iawn
beth yw priodweddau graffen?
Cryf iawn caiff pob atom carbon ei fondio â thri atom carbon arall â bondiau cofalent cryf y mae angen llawer o rym i'w torri.
Y dargludydd trydan hysbys gorau – gall yr electronau dadleoledig o fewn yr haen graffen gario egni trydanol.
beth yw pigment thermocromig?
pigmentau thermocromig yn ddefnyddiau sy'n newid eu lliw pan fyddan nhw'n cyrraedd tymheredd penodol.
beth yw defnyddiau pigment thermocromig?
mygiau sy'n newid lliw, dangosyddion pŵer batri, teganau bath ar gyfer plant a thermomedrau stribed.
beth yw pigment ffotocromig?
Mae pigmentau ffotocromig yn newid lliw yn ôl dwysedd golau
beth yw priodweddau pigment ffotocromig?
llifynnau mewn dillad a lensys mewn sbectolau sy'n tywyllu mewn golau haul llachar.
beth yw polymerau sy’n cofio siâp?
polymerau sy’n cofio siâp yn blastigion sy'n dychwelyd i'w siâp gwreiddiol pan gânt eu gwresogi.
beth yw defnyddiau polymerau cofio siap?
bymperi ceir sy'n gallu adennill eu siâp gwreiddiol yn hawdd gan ddefnyddio gwres ar ôl gwrthdrawiad.
Mae aloion sy’n cofio siâp?
aloion metel sy'n adennill eu siâp gwreiddiol pan gânt eu gwresogi.
beth yw defnyddiau aloion cofio siap?
Mae defnyddiau aloion sy'n cofio siâp yn cynnwys fframiau sbectol sy'n gallu cael eu hanffurfio
beth yw hydrogeliau?
bolymerau sy'n gallu amsugno hyd at 1000 gwaith eu cyfeintiau eu hunain mewn dŵr pan fyddan nhw wedi'u hamgylchynu gan ddŵr.
beth yw defnyddiau hydrogeliau?
Mae defnyddiau hydrogeliau yn cynnwys llenwi cewynnau i amsugno mwy o droeth