> ar ôl cyfathrach rywiol, mae'r sbermatosoa yn teithio trwy'r groth i'r dwythell wyau.
> CYNHWYSIANT yn cynyddu athreiddedd y gellbilen o flaen yr acrosom.
> wrth ddod i gysylltiad â'r zona pellucida mae ADWAITH ACROSOM yn rhyddhau ensymau hydrolas sy'n treulio'r zona pellucida.
> mae pilenni'r sberm a'r oocyt eilaidd yn asio, gan ryddhau defnydd genynnol y sberm i'r oocyt eiliaidd = sbarduno cwblhau meiosis II = ffurfio ofwm ac ail corffyn pegynol.
> hefyd yn sbarduno ADWAITH CORTIGOL, lle mae'r gronynnau cortigol yn asio â'r cellbilen = addasu'r zona pellucida a ffurfio PILEN FFRWYTHLONIAD = atal mwy o sberm rhag ffrwythloni'r wy.
> cnewyll y sberm a'r wy yn asio = ffurfio cnewyllyn sygotig.
> gronyn paill cydnaws yn glanio ar stigma ac yn egino yn yr hydoddiant swcros mae'r stigma yn ei secretu gan y stigma = creu tiwb paill.
> tiwb paill yn tyfu allan o'r gronyn paill i lawr trwy'r golofnig, o dan reolaeth y cnewyllyn tiwb.
> secretu ensymau hydrolas er mwyn treulio ei ffordd trwy meinweoedd y golofnig.
> yn tyfu tuag at atynwyr cemegol sy'n cael eu secrtetu gan yr ofwl = symud i fyny'r graddiant atynwyr cemegol.
> tiwb paill yn mynd i'r coden embryo trwy'r micropyl, yna'n ymddatod.
> blaen y tiwb paill yn agor = rhyddhau'r ddau gamet gwrywol i'r coden embryo.
> un gamet gwrywol yn asio â'r gamet benywol = ffurfio sygot diploid.
> yr ail gamet gwrywol yn asio â'r cnewyllyn pegynol (2n) = ffurfio cnewyllyn endosberm cynradd triploid (datblygu i ffurfio'r endosberm sy'n darparu maeth i'r embryo sy'n datblygu).
> pan mae'r amodau yn addas, mae'r hedyn yn amsugno dŵr trwy'r micropyl = cotyledonau yn chwyddo, a hadgroen yn cael ei hollti = mwy o ocsigen yn gallu mynd mewn ar gyfer resbiradaeth aerobig.
> cronfeydd bwyd yn cael eu hydrolysu = darparu egni ar gyfer resbiradaeth = tyfu.
> cynwreiddyn yn dod allan o'r hedyn; ffoto -, geo + = tyfu tuag i lawr.
> cyneginyn yn dod allan; ffoto +, geo - = tyfu tuag i fyny.
> cyneginyn yn plygu i siâp bachyn wrth iddo gwthio i fyny trwy'r pridd = amddiffyn y blaen rhag niwed.
> cyneginyn yn dod allan trwy'r pridd, dail yn dadrolio = dechrau cyflawni ffotosynthesis.
cynhyrchu nifer o foleciwlau o un moleciwl DNA yn gyflym
> hydoddi'r sampl DNA mewn byffer a'i gymysgu â DNA polymeras a pharatowyr.
> gwresogi i 95*C = dadnatureiddio'r DNA = gwahanu i ddau edefyn sengl.
> oeri i 69*C = achosi i'r paratowyr uno â'r dilyniannau basau cyflenwol.
> gwresogi i 70*C = DNA polymeras, sy'n sefydlog yn thermol, yn catalyddu synthesis edefyn cyflenwol i'r ddau edefyn DNA sengl (ffurfio bondiau ffosffodeuester yn yr asgwrn cefn siwgr-ffosffad).
> ysgogiad nerfol yn achosi i sianelu calsiwm yn y reticwlwm sarcoplasmig i agor = Ca2+ yn tryledu i'r myoffibrilau.
> Ca2+ yn rhwymon â'r troponin = newid ei siâp = achosi i tropomyosin i newid safle.
> gwneud safleoedd cydio â myosin ar yr actin yn agored.
> pennau myosin yn ffurfio croes-bontydd gyda'r safleoedd cydio ar yr actin.
> ADP a Pi sydd wedi'u cydio yn y pen myosin yn cael eu rhyddhau = newid ongl y pen myosin yn ôl i'w siâp llaes = tynnu'r actin heibio'r myosin = strôc bwer.
> moleciwl ATP arall yn rhwymo wrth y pen myosin = torri'r bont ar draws yr actin.
> hydrolysis yr ATP yn darparu egni i sythu y pen myosin yn barod i rwymo wrth yr actin eto.