Maethiad

Cards (29)

  • Mathau o faeth:
    Awtotroffig - yn gwneud moleciwlau organig cymhleth o foleciwlau anorganig syml.

    Heterotroffig - yn bwyta moleciwlau bwyd organig cymhleth.
  • Ffotoawtotroffig:
    - Defnyddio golau fel ffynhonnell egni ar gyfer synthesis bwyd.
  • Cemoawtotroffig:
    Ocsideiddio moleciwlau anorganig i ddarparu egni ar gyfer synthesis bwyd.
  • Saproffytig:
    Treulio bwyd yn allanol drwy secretiad ensymau ac yna amsugno cynhyrchion y treuliad i'r organeb, e.e. fungi.
  • Holosöig:
    Treulio bwyd yn fewnol, gan cynnwys amlyncu, amsugno, cymathu a charthu.
  • Maeth organebau ungellog:
    1. Amoeba pseudopodia - amgylchynu'r ysglyfaeth, hamgáu mewn gwagolyn bwyd.
    2. Caiff ensymau eu rhyddhau o lysosomau sy'n asio â'r gwagolyn bwyd a chaiff yr ysglyfaeth ei threulio.
    3. Caiff cynhyrchion y broses dreulio eu hamsugno i'r cytoplasm, gwastraff na chafodd ei hydoddi ei garthu trwy ecsocytosis.
  • Organeb hydra - un ffynhonnell o fwyd:
    Coludd diwahaniaethol, tebyg i sach ag un agoriad.
  • Organeb pryf genwair - amrywiaeth o fwydydd.
    Coludd tiwb gyda agoriadau gwahanol ar gyfer amlynciad a charthiad a rhanbarthau arbenigol ar gyfer treulio sylweddau bwyd gwahanol.
  • Organeb bod dynol - deiet hollysol.
    Rhanbarthau arbenigol o'r coludd. Mae mur y coludd yn cynnwys yr haenau canlynol: serosa, cyhyryn, isfwcosa, mwcosa, epitheliwm.
  • Serosa: (mur y coludd)
    Gorchudd allanol wydn y meinwe cyswllt
  • Cyhyryn: (mur y coludd)
    Cyhyrau hydredol - cyfangu i fyrhau'r coludd
    Cyhyrau cylchol - cyfangu i leihau'r diamedr.
    Y tonnau cyfangu hyn a elwir yn peristalsis, yn gwthio bwyd ar hyd y coludd.
  • Isfwcosa: (mur y coludd)
    Pibellau gwaed a lymff am gwaredu cynhyrchion bwyd wedi'i dreulio.
  • Mwcosa: (mur y coludd)
    Haen fewnol, secretu mwcws ar gyfer iro (lubricate). Mewn rhai rhannau o'r coludd, mae'n secretu suddion treulio ac mewn rhannau eraill, mae'n amsugno cynhyrchion.
  • Epitheliwm: (mur y coludd)

    Haen o gelloedd sydd mewn cysylltiad â bwyd.
  • Dannedd llygad (cigysydd):
    Hir a miniog i dyllu cnawd a gafael mewn ysglyfaeth a'i lladd.
  • Blaenddannedd: (cigysydd)
    Ar y safn uchaf ac isaf yn gafael mewn cnawd ac yn ei rwygo.
  • Cigysddaint: (cigysydd)
    Llithro heibio'i gilydd i rwygo cyhyrau oddi ar esgyrn.
  • Gogilddannedd a childdannedd: (cigysydd)
    Gysbau miniog - torri ac malu.
    Safn - gyhyrau cryf ac mae'n symud yn fertigol, agor yn llydan, gwasgu i lawr yn gadarn i dal ysglyfaeth.
  • Coludd cigysydd:
    Coludd cymharol fyr.
    Stumog fawr - treulio deiet o protein yn bennaf.
    Caecwm bach.
  • Parasitiaid:

    Byw ar neu mewn organeb lletyol, cael eu maeth gan y lletywr, niweidio'r lletywr.
  • Ectoparasit:
    Byw ar arwyneb organeb arall.
  • Endoparasit:

    Byw y tu mewn i organeb arall.
  • Gogilddannedd a childdannedd: (llysysydd)

    Dannedd boch (cheek).
    Ffitio mewn siâp WM.
    Safn - symud yn llorweddol, dannedd cydgloëdig - malu bwyd.
    Gwreiddiau'r dannedd yn agored a heb eu cyfyngu, felly tyfu drwy gydol eu hoes.
  • Diastema: (llysysydd)

    Gofod lle gall y tafod wthio bwyd i'r ddannedd foch sy'n malu.
  • Blaenddannedd: (llysysydd)

    Ar safn isaf, torri llystyfiant yn erbyn pad cornaidd ar y safn uchaf. Ni cheir dannedd llygad neu nid ydynt yn amlwg.
  • Coludd anifail nad ydynt yn cnoi cil: (ruminate)
    Coludd hir iawn ar gyfer dreulio cellwlos.
    Caecwm mawr yn cynnwys bacteria, cynhyrchu cellwlas ar gyfer treulio cellwlos.
  • Maeth anifail cnoi cil: (rhan 1,2)
    1. Gwair yn gymysgu â phoer, a'i gnoi i ffurfio cil cyn cael ei lyncu.
    2. Cil mynd mewn i siambr gyntaf y stumog, sef y rwmen. Bacteria sy'n treulio cellwlos yn cynhyrchu cellwlas, sy'n torri'r cellwlos yn y gwair i lawr i ffurfio glwcos.
    Hyn yn eplesu i ffurfio asidau organig sy'n cael eu hamsugno i lif y gwaed. Broses yn cynhyrchu llawer o garbon deuocsid a methan, a gânt eu hallyrru.
  • Maeth anifail cnoi cil: (rhan 3,4)

    3. Cil wedi'i eplesu o'r rwmen - mynd mewn i ail siambr y stumog, sef y reticwlwm. Yr anifail yn codi'r cil yn ôl i'r geg o'r fan hon a'r rwmen i'w gnoi eto.
    4. Caiff cil wedi'i gnoi eto ei lyncu ac aiff i mewn i drydedd siambr y stumog, sef yr Omaswm. Caiff dŵr ei amsugno yma.
  • Maeth anifail cnoi cil: (rhan 5,6)
    5. O'r omaswm, bwyd yn mynd mewn i bedwaredd siambr - siambr olaf y stumog, sef yr abomaswm. Caiff protein ei dreulio yma.
    6. Cynhyrchion treuliad (digestion) eu hamsugno i'r gwaed yn y coluddyn bach.